Un o 24 canolfan bwnc-penodol yr Academi Addysg Uwch yw Canolfan Bwnc Astudiaethau Athronyddol a Chrefyddol. Lleolir y Canolfannau Pwnc mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU, a lleolir Canolfan Bwnc Athroniaeth ac Astudiaethau Crefyddol (PRS) yn Leeds.
Ein cenhadaeth yw cefnogi a hyrwyddo Astudiaethau Athronyddol, Diwinyddol a Chrefyddol addysg uwch yn y DU, ac i adeiladu ar eu diwylliant o ddeialog a myfyrio.
Mae'r Ganolfan Bwnc ar gyfer Astudiaethau Athronyddol a Chrefyddol wedi ymrwymo i weithio yn bennaf oll o fewn y cymunedau a'r disgyblaethau pynciol maent yn eu cefnogi:
Drwy wneud hyn bydd yn ceisio cefnogi a hyrwyddo profiad addysgol myfyrwyr sy'n astudio'r disgyblaethau hyn. Ar yr un pryd, fe fydd yn hyrwyddo gwerth dulliau a gwybodaeth Athronyddol a Chrefyddol i gynulleidfa ehangach, gan bwysleisio perthnasedd disgyblaethau Athronyddol a Chrefyddol - a'u ymagweddau - i bolisi, ymchwil addysgol, ac ymarfer dysgu ac addysgu.
Mae'r Ganolfan Bwnc Astudiaethau Athronyddol a Chrefyddol yn rhedeg gweithdai a gynlluniwyd ar gyfer anghenion adrannau penodol, yn trefnu cynadleddau sy'n mynd i'r afael â materion sydd o bwys i addysgu o fewn ein disgyblaethau, yn dosbarthu cyllid prosiectau, yn cyhoeddi cylchgrawn a chanllawiau amrywiol ar faterion dysgu ac addysgu, ac mae ganddynt gyfoeth o adnoddau ar y wefan hon. Os hoffech fwy o fanylion, neu os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am ein gwaith, cysylltwch â ni.